Happy Valley Llandudno
Faint o honom sydd angen gwneud sialens sydd yn angenrheidiol i gynllun ond ddim hefo'r cymhelliad i neud. Dim byd fel esiampl yma i fod angen cerdded i Happy Valley yn Llandudno i dynnu lluniau wedi cael eu tynnu gan ffotofgraffwyr yr wyf yn astudio i fy ngwaith cwrs eleni. Ar ol cael cyfle yn mis Hydref i dynnu lluniau hefo'r ffon symydol ond ddim yr un ansawdd ar camera DLSR. Felly sgidia braf dillad cynnes a dechrau taith ar droed i Happy Valley. Un peth am allu cerdded ar hyd lan y mor Llandudno mae o ar wastaddir felly dim elltydd serth ddim ond ar a rhan olaf sydd yn mymryn o ymdrech ond yn talu am yn ail am yr ymdrech. Wrth gerddad mae'r camera obscura yn edrych yn fach iawn a bron yn amhosib i gyrraedd ond gwerth bob cam at fy sialens 10k cam y dydd. Ar ol cymeryd tua 45 munud ar hyd lan y mor Llandudno ac ambell o luniau ar y ffon symydol ar DLSR cyrraedd Happy Valley. Un llun nesi dynnu ddim at fy ngwaith oedd y llun yma o ffiniau gwesty Grand yn edrych dros olion y Theatre Grand aeth ar dan nol yn gaeaf 1994, sydd hyd heddiw ddim ond olion o beth oedd yno am 200 mlynedd, defnyddio’r filter i greu effaith sepia un o fy hoff luniau nes i ei dynnu 2 Ionawr 2021.
Comments
Post a Comment